Apel Maradi Niger
Apêl Maradi, Niger - Pwyswch yma i gyfrannu

Siriol Teifi yn Maradi, Niger Mae gan Siriol ddiddordeb yn Niger, Gorllewin yr Affrig, gan ei bod yn gweithio’n ystod y gwyliau ysgol gyda’r cwmni Cadwyn sy’n hybu crefftau o Orllewin yr Affrig.

Bu gwraig o Niger, a oedd yn drefnydd Pentrefi Crefftau yn y wlad, yn arosgydatheuluSiriol yn ystod Eisteddfod Tyddewi rhai blynyddoedd yn ôl.

Niger yw’r wlad tlotaf yn y byd, gyda chyfradd marwolaeth yno, i’r rhai hynny sydd o dan 5 oed, yn fwy nag un mewn tri.

Yn 2005 arweiniodd sychder mawr a phla o locustiaid yno at brinder bwyd i 2.5miliwn o Nigeriaid. Ym mis Tachwedd 2005 fe wnaeth Siriol ymprydio am wythnos gyfan er mwyn tynnu sylw at broblem enfawr newyn Niger a chael pobl i gyfrannu at apêl Cymorth Cristnogol ar gyfer y wlad. Ychwanegodd ympryd Siriol bron £2,000 o bunnoedd at Apel Niger Cymorth Cristnogol. Dywedodd ar y pryd:

"Bydd fy ympryd i yn ffordd fach o uniaethu â phobl ifainc yr un oed â mi sy’n dioddef yn Niger. Sai'n credu y byddai'n teimlo trueni drosof fy hun o achos fy mod i’n gobeithio bwyta eto ar ddiwedd yr wythnos tra bo nhw'n dal i ddioddef."

"Hyd yn oed yr wythnos nesaf, bydda'n cael yfed dwr glân a mynd i'r ysgol yn wahanol i brofiad llawer o blant Niger. Gofynnaf i bawb ddanfon cyfraniad at Cymorth Cristnogol."


Rhaglen Hacio Siriol TeifiYm mis Chwefror 2007 fe wnaeth Siriol ymweld â Maradi yn Niger er mwyn gweld drosti ei hun y dioddefaint yn y wlad.

Fe wnaeth Hacio ei dilyn wrth iddi deithio drwy’r wlad yn profi realiti y sefyllfa gyda’i llygaid ei hun. Cafodd y rhaglen ei ddarlledu ar y 15fed o Fawrth 2007, ac mae modd ei wylio ar wefan S4C am gyfnod o rhyw fis wedi'r dyddiad 'ma.

Rhaglen Hacio Siriol TeifiFe ymddangosodd Siriol hefyd ar Wedi 7 yn gynharach ar yr un diwrnod. Cafodd hi hefyd ei chyfweld gan Marc Griffiths ar raglen 'Grav' ar y 21ain o Fawrth 2007. Datganiad i'r Wasg 14/03/07 (pdf).

Bu yn ymweld ag Ysbyty Maes gan Medecins Sans Frontieres 'centre de nutrition de Médecins Sans Frontières à Maradi' - ysbyty sydd yno ers 6 mlynedd ac yn llawn ar hyn o bryd. Mae 3 ward ar gyfer plant sy'n newynu.

Rhaglen Hacio Siriol TeifiYn y ward cyntaf y mae plant sydd mor wan fel y gallent farw unrhyw ddiwrnod. Yn yr ail ward y mae plant sy'n dechrau gwella. Yn y trydydd ward y mae'r plant bach sydd wedi cryfhau ddigon nes eu bod bron yn barod i ddychwelyd at eu cartrefi.

Canolfan Meddygol Maradi, NigerDywedodd y staff wrth Siriol mai'r hyn oedd yn eu gyrru nhw oedd gweld nifer o'r plant yn llwyddo i'w gwneud hi trwy'r 3 ward ac yn cael dychwelyd at fywyd.

Penderfynodd Siriol sefydlu Cronfa Arbennig gyda Medecins Sans Frontieres i helpu cyllido'r ysbyty hwn.

Ei gobaith yw y byddwn ni yng Nghymru'n barod i gyfrannu at y brosiect o achub y bywydau hyn.

***Pwyswch yma i gyfrannu***

Gwyliwch y fideo isod am ychydig o wybodaeth gefndirol :

Cysylltwch gyda Siriol - Ebost: siriol@cymorthniger.com Post: Siriol Teifi, Dolwerdd, Llanfihangel-ar-arth, Pencader, Sir Gâr, SA39 9JU. Ffôn: 01559 384378.